
Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi'i roi i'r hyn fydd y prosiect ynni llanw mwyaf i gael cydsyniad yn Ewrop.
Yn berchen i'r fenter gymdeithasol Menter Môn ac yn cael ei reoli ganddi, cynllun llanw Morlais yw'r cyntaf o'i fath yn y byd a bydd yn weithredol o 2026 ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cyfran ecwiti gwerth £8m yn y prosiect i sicrhau cynnydd.
Mae gan safle Ynys Môn y potensial i gynhyrchu digon o ynni ar gyfer hyd at 180,000 o aelwydydd nodweddiadol yng Nghymru, gan gynnig model 'gosod a chwarae' unigryw ar gyfer datblygwyr dyfeisiau ynni llanw. Bydd hyn yn helpu i leihau costau wrth iddynt gynyddu gweithrediadau i gynhyrchu trydan glân.
Bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn helpu i ariannu cam Cydnerth y prosiect, a fydd yn gweld y cysylltiad grid yn cael ei gryfhau ym Mharc Cybi, Caergybi.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Prosiect ynni llanw mawr yn y gogledd yn ehangu i gefnogi twf gwyrdd | LLYW.CYMRU