BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd: adnabod yr arwyddion a rheoli sylweddau peryglus

Mae gwybod sut i adnabod arwyddion peryglus sylweddau niweidiol a sut i reoli sylweddau o’r fath yn ddiogel yn allweddol i ddiogelu gweithwyr rhag niwed.

Mae'r Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd yn ei gwneud hi’n ofynnol i gyflogwyr reoli sylweddau a allai achosi niwed yn y gweithle.

Mae’r poster Trafod Cemegau yn Ddiogel y Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd yn darparu canllawiau hanfodol ar sut i drin a thrafod cemegau’n ddiogel yn y gweithle, gan gynnwys y pethau i’w gwneud ac i beidio â’u gwneid a rhestr wirio ddefnyddiol ar arwyddion peryglon.

Lawrlwythwch fersiwn am ddim o’r poster, neu gallwch brynu copi caled ar wefan Lyfrau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.