Waeth a ydych chi â’ch bryd ar fod yn seren roc neu’n entrepreneur, mae’n debyg y bydd pobl eraill yn ceisio dilyn llwybr tebyg tuag at lwyddiant. Yr unigolion hyn fydd yn cystadlu yn eich erbyn am sylw’ch cynulleidfa. O ganlyniad, bydd lefel eu hapêl yn cael effaith uniongyrchol ar ba mor gyflym ac i ba raddau rydych chi’n cyrraedd eich nod.
Fodd bynnag, gallwch achub y blaen ar eich cystadleuwyr trwy feddwl yn ofalus am sut i sefyll allan. Bydd y gallu i ddisgleirio yn eich helpu i fod yn fwy cystadleuol, bod yn fwy gweladwy i’ch cynulleidfa a denu mwy o bobl.
Mae’r cyfan yn ymwneud â bod â’r hyder i fod yn wahanol, ac wrth reswm, mae hynny’n cynnwys elfen o risg. Gallech ddewis yr opsiwn diogel a pharhau i weithredu yn yr un modd, ond trwy wneud hynny efallai na fyddwch byth yn gwireddu’ch potensial. Fodd bynnag, os ydych yn penderfynu torri’ch cwys eich hun, gallech elyniaethu’r bobl rydych am eu denu.
Mae’r bennod hon yn egluro pam mae’n bwysig bod yn arloesol a datblygu nodwedd wahanol allweddol er mwyn achub y blaen ar eich cystadleuwyr. Hefyd, mae’n egluro sut gallwch chi lwyddo i wneud hyn heb fentro gormod, gan ddatblygu meddylfryd sy’n agored iawn i syniadau newydd bob amser.
"Mae’n well bod â thoreth o syniadau a bod rhai ohonyn nhw’n anghywir na bod yn gywir bob tro heb yr un syniad o gwbl." - Edward de Bono
Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.