BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Dathlwch Lwyddiant

Ar daith a all fod yn un hir a chaled at lwyddiant, gall dathlu’ch cyflawniadau allweddol ar hyd y ffordd fod yn saib emosiynol a meddyliol o’r ymdrech angenrheidiol. Gall cymryd saib yn sicr fod yn gathartig a’ch bywiocau, efallai drwy gynnal parti, neu sbwylio’ch hun a’ch tîm gyda rhyw fath o wobr i gydnabod eich gwaith caled.

Dylech hefyd geisio cael mwy o’ch gwobr, drwy gynnwys elfen o dwf personol a phroffesiynol hirdymor cynaliadwy. Os ydych chi’n gwobrwyo’ch hun gyda gwyliau byr, er enghraifft, neilltuwch amser i fyfyrio’n ddwfn ar yr hyn rydych chi wedi’i gyflawni a pham eich bod wedi llwyddo.

Yn yr un modd, os oes gennych chi dîm yn gefn i chi, gall fod yn werth chweil i chi fynd â nhw i ffwrdd o’r amgylchedd gwaith, er mwyn iddyn nhw allu ymlacio neu gael hwyl gyda’i gilydd. Mae hyn yn annog bondio, a gallech chi hefyd gynnwys rhyw fath o ymarfer meithrin tîm, tra hefyd yn dadansoddi’r rhesymau wrth wraidd y llwyddiant diweddaraf.

Drwy wneud hyn, mae dathlu yn dod yn rhan o ymrwymiad i welliant parhaus. Gall  y mewnwelediad a gewch wrth ddadansoddi llwyddiant taith fod yn sbardun da i chi. Gall hefyd roi andros o hwb i’ch hunanhyder. Gall yr hwb a gewch gyda dathliadau o’r fath gyfrannu at osod nodau mwy heriol a fydd yn mynnu’r gorau gennych chi. Mae llwyddiant fel cyffur yn aml - unwaith y bydd pobl wedi ei brofi, does dim troi’n ôl.

Mae ystyried dathliadau fel sbardun i’r nod nesaf yn syniad da. Serch hynny, ceisiwch osgoi mynd â phethau’n rhy bell. Dylech yn sicr osgoi mynd yn hunanfoddhaus a meddwl gormod am yr hyn rydych chi wedi’i gyflawni.

Gall atgofion o ddathlu buddugoliaeth hefyd fod yn glustog gyfforddus ar ôl i chi faglu ar y daith. Ar adegau anodd, gall hel atgofion am lwyddiannau eich sbarduno i ddal ati.

“Po fwyaf y byddwch yn canmol a dathlu’ch bywyd, po fwyaf sydd mewn bywyd i chi ei ddathlu.”
Oprah Winfrey

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.