BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Dilyn eich greddf

Ar eich taith i wireddu’ch gweledigaeth bydd yn rhaid i chi wneud nifer o benderfyniadau hanfodol. Bydd eich llwyddiant yn dibynnu’n fawr ar y llwybr y byddwch chi’n ei ddewis ym mhob achos. Fodd bynnag, mae’n debyg y bydd mwy na dau ganlyniad mewn sawl achos ac o bryd i’w gilydd bydd pawb arall yn cymryd y ffordd amlwg neu hawsaf. Mae hyn yn golygu ei bod yn annhebygol o fynd â chi ymhellach yn y ras i wireddu’ch breuddwyd, yn enwedig mewn perthynas â’ch cystadleuwyr. Yn sgil hynny, dylech geisio meddwl yn fwy dwys er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud y penderfyniad gorau i chi, yn hytrach na’r un rydych chi’n meddwl fydd yr un mwyaf poblogaidd neu ddiogel.

I wneud hyn mae angen i chi fanteisio ar eich profiad a gwybodaeth unigryw, gan mai’r reddf hon all roi mantais i chi yn y broses benderfynu. Bydd eich greddf ar ei fwyaf effeithiol a buddiol pan fyddwch chi’n credu ynoch chi’ch hun ac yn gwybod yn union beth rydych chi ei eisiau mewn bywyd. Mae pobl lwyddiannus yn aml yn siarad am ddefnyddio eu greddf i wneud penderfyniadau pwysig. Fodd bynnag, mae hyn ond yn cael ei wneud ar ôl pwyso a mesur pob rhesymeg a phan mae’n rhaid gwneud penderfyniad terfynol.

Byddwch yn gwneud y penderfyniadau gorau ar ôl i chi ofyn y cwestiynau cywir. Heb y wybodaeth gywir, dydych chi ddim yn debygol o wneud y penderfyniadau gorau. Gall dibynnu’n llwyr ar eich greddf a gwrando ar eich llais mewnol fod yn beryglus, felly dylech chi brocio ar lefel resymol a greddfol. Gan gasglu’r holl dystiolaeth resymegol y gallwch chi, fel y dylech chi gydag unrhyw benderfyniad pwysig, ac yna rhoi’ch greddf ar waith i’ch ysbrydoli ymhellach yw’r llwybr at benderfyniadau arloesol a all eich rhoi gam ar y blaen i’ch cystadleuwyr a dod â chi yn nes at eich gweledigaeth.

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.