BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Dysgu o brofiad

Mae anelu at lwyddiant yn daith sy'n llawn profiadau a phosibiliadau newydd cyffrous. Er eich bod yn debygol o gael cymorth pobl eraill ar hyd y ffordd, y grym yn y pen draw tuag at gyflawni eich gweledigaeth yw chi. Chi fydd yn gwneud iddo ddigwydd, a bydd y broses o ymdrechu i ddilyn eich brwdfrydedd yn brofiad dysgu ei hun.

Yn wir, mae'n hanfodol eich bod yn agored ac yn barod i dderbyn y wybodaeth hon, gan y bydd yn chwarae rhan allweddol yn eich datblygiad personol a phroffesiynol. Bydd llawer o hyn yn ymwneud â darganfod eich hun drwy'r ffordd y byddwch yn ymdrin ac yn ymateb i'r heriau y byddwch yn eu hwynebu. Bydd y daith hon o ddarganfyddiadau yn datgelu'r chi go iawn ac yn eich helpu i ddiffinio'ch gweledigaeth yn gliriach.  

Er bod angen i chi fod yn sbardun y tu ôl i'ch uchelgais, nid yw gwneud i bethau ddigwydd yn ymwneud â gweithgarwch dwys yn unig. Bydd angen i chi hefyd dreulio  amser yn myfyrio ar beth rydych wedi'i wneud, i asesu'n glir beth sy'n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio. Er enghraifft, wrth wynebu adfyd, a wnaethoch chi ateb yr heriau'n uniongyrchol, eu derbyn ac yna ail-lywio, yn hytrach na derbyn cael eich trechu?

Mae eich gwir gryfderau, gwendidau a chyfyngiadau yn dod i'r amlwg pan fyddwch yn wynebu sefyllfaoedd anodd – fel colli eich swydd, gwneud cynnig busnes aflwyddiannus neu iechyd gwael. Y digwyddiadau bywyd hyn sy'n ffurfio pwy ydych chi, beth rydych chi'n credu ynddo a beth sy'n bwysig i chi. Rhaid i chi fframio'ch meddylfryd yn barod i ymdopi â'r heriau hyn – pan fydd adfyd yn taro, mae pobl lwyddiannus yn ailffocysu ac yn symud ymlaen gyda lefelau uchel o egni. Nid yw'r gweithgarwch byth yn dod i ben.

Daw profiadau dysgu gwerthfawr a darganfyddiad personol o ffrwd gyson o weithgarwch sy'n canolbwyntio ar gyflawni eich nod – rhai dwys, rhai llai dwys. Drwy gymryd yr awenau a gwneud i bethau ddigwydd, byddwch yn rheoli eich tynged.

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.