BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Egwyddor Angerdd

Meddyliwch am eich arwyr - yr holl gyflawnwyr mawr a’r perfformwyr gorau ledled sbectrwm busnes, chwaraeon a thu hwnt. Beth sydd ganddyn nhw i gyd yn gyffredin? Yr ateb yw angerdd penderfynol dros yr hyn maen nhw’n ei wneud. Dyma’r ffactor pwysicaf oll er mwyn llwyddo.

Bydd cael gafael ar eich angerdd yn cael effaith fawr ar gyflawni’ch nodau, bod yn fodlon eich byd a byw bywyd hapus. Gall gyfoethogi’ch perthynas â’ch teulu a’ch cydweithwyr, ac mewn busnes, gall ennyn diddordeb, cymell ac ysbrydoli’ch tîm i sicrhau canlyniadau anhygoel. Mae hyn oherwydd os ydych chi’n cael gafael ar eich angerdd, byddwch yn darganfod brwdfrydedd ac egni – a phleser fwy na thebyg – y mae’n annhebygol y byddwch wedi’u profi o’r blaen.

Fydd dilyn eich angerdd ddim yn hawdd. I lwyddo’n bersonol a phroffesiynol, bydd angen ffocws gwirioneddol a gwaith caled. Ond byddwch yn cael eich annog gan y cymhelliant eithaf – mynd ar drywydd rhywbeth rydych chi’n ei garu, ei fwynhau ac yn credu ynddo.

Wrth ei sianelu yn y ffordd iawn, bydd eich angerdd yn ysbrydoli’r rhai o’ch cwmpas. Bydd fel magnet i eraill. Bydd eich brwdfrydedd a’ch cymhelliant yn cipio dychymyg, calonnau a meddyliau pobl a fydd yn darparu cymorth hanfodol i chi yn eich bywyd personol ac yn gweithio gyda chi i’ch helpu i wireddu’ch breuddwyd broffesiynol.

Wrth i chi ddechrau ar brosiect newydd, newid gyrfa, neu ddyhead efallai i ddechrau eich busnes eich hun, os gallwch chi harneisio eich angerdd, a sicrhau bod y bobl o’ch cwmpas yn ei rannu, byddwch chi ar y trywydd iawn ar gyfer llwyddiant yn hytrach na dinodedd.

Ond peidiwch â chymryd angerdd yn ganiataol. Fel popeth arall mewn bywyd, gellir ei golli. Ffactor llwyddiant arall yw gwybod pryd mae’ch angerdd yn gwanhau a mynd i’r afael â’r broblem honno, a naill ai gweithio i aildanio’ch fflam neu chwilio amdani yn rhywle arall. Fodd bynnag, y peth pwysicaf yw’ch cam cyntaf cael gafael ar eich angerdd.

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.