BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Entrepreneuriaid – Eu Geni neu eu Creu?

Mae dadlau a thrafod wedi bod erioed ynghylch a yw entrepreneuriaid yn cael eu geni neu eu creu. Ymddengys fel bod dwy ochr i’r geiniog hon – y rhai sy’n benderfynol eu bod yn cael eu geni a’r rhai sy’n dweud eu bod yn cael eu creu.

Credwn y gellir dysgu entrepreneuriaeth. Mae gan bawb lygedyn o syniad da ynddyn nhw; ond mae angen i lawer o unigolion ddod o hyd i’r sbardun i danio’r fflam. Yn aml, mae gwrando ar rywun sy’n eich cymell, gweld rhywbeth ar wyliau neu sylweddoli y gallech chi wneud rhywbeth yn well na’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd, yn ysbrydoli’r ysbryd mentrus.

Mae llawer o fframweithiau ystrydebol o sut beth yw entrepreneuriaid – ein profiad ni yw eu bod yn bobl o bob lliw a llun, gyda phersonoliaethau, agweddau ac ymddygiad amrywiol. Efallai bod rhai’n credu bod yr ateb rhwng cloriau’r Cambridge Handbook of Expertise and Expert Performance a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caergrawnt yn 2006. Mae’r llyfr yn dweud wrthym am anghofio’r syniad mai athrylith, dawn neu briodweddau cynhenid eraill sy’n creu’r “anfarwolion”.

Fel rydym wedi’i dweud eisoes, rydym yn credu’n gryf bod llwyddo a dod yn entrepreneur llwyddiannus yn seiliedig ar 1% o ysbrydoliaeth, 29% o hyfforddiant da a 70% o waith caled a llafur diflino.

Peidiwch â rhoi’ch hun mewn bocs neu feithrin meddylfryd o gyfyngu ar eich gallu, mae hyn yn arwain at laesu dwylo.

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.