BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Gwasanaeth cyfieithu am ddim yn cyrraedd y miliwn

Mae Helo Blod, gwasanaeth cynghori a chyfieithu am ddim, yn dathlu cyfieithu miliwn o eiriau ar ôl cyflwyno mwy na 1000 o fusnesau ledled Cymru i fanteision defnyddio rhagor o Gymraeg a hynny fel rhan o ymdrech i helpu i ddyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050. 

Mae Helo Blod, a gafodd ei lansio ym mis Mawrth 2020 i gefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, yn cynnig cyfieithu hyd at 500 gair y mis am ddim i fusnesau ac elusennau. 

Mae’r gwasanaeth cyflym a chyfeillgar hefyd yn cynnig gwasanaeth gwirio testun hyd at 1000 o eiriau yn ogystal â chyngor ymarferol, arweiniad a chymorth i helpu busnesau i ddefnyddio rhagor o Gymraeg, gan gynnwys darparu arwyddion dwyieithog. 

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae 1,121 o fusnesau ledled Cymru wedi dweud helo wrth Blod naill ai ar-lein neu dros y ffôn, gyda’r gwasanaeth yn profi’n boblogaidd ymhlith caffis, siopau, gwasanaethau proffesiynol a chynhyrchwyr bwyd a diod sydd am ddefnyddio rhagor o Gymraeg ar eu gwefan, ar arwyddion, ar y cyfryngau cymdeithasol neu i hysbysebu.

Mae nwyddau Helo Blod hefyd ar gael am ddim i fusnesau – gan gynnwys arwyddion Ar Agor/Ar Gau Cymraeg, bagiau defnydd, padiau lliwio a bathodynnau Iaith Gwaith, gan helpu busnesau i wneud yr iaith yn fwy amlwg.

Mae Purah Beeswax Candles, cwmni creu canhwyllau cynaliadwy yn Sir Gaerfyrddin, wedi bod yn defnyddio Helo Blod ers dros flwyddyn. Fe wnaeth perchennog y cwmni, Helen Louise Williams, sy’n gwerthu ei chanhwyllau ar-lein ac sydd â dros 20 o stocwyr ledled Cymru, ddefnyddio gwasanaeth Helo Blod ar-lein i gyfieithu cynnwys ei sianeli cyfryngau cymdeithasol a disgrifiadau o’i chynnyrch i gyrraedd cynulleidfa ddwyieithog fwy a chysylltu â’i chwsmeriaid. Dros y misoedd diwethaf, mae Helen wedi parhau i ddefnyddio'r gwasanaeth i gyflwyno labeli Cymraeg yn ei siop.

Meddai Helen: “Mae 70% o fy nghwsmeriaid wedi’u lleoli yng Nghymru, a dw i’n meddwl ei bod hi ond yn iawn fy mod i’n defnyddio iaith y wlad dw i’n gwerthu iddi. Ar ôl cyflwyno rhagor o Gymraeg yn fy siop goncrit ac ar-lein, mae fy sylfaen cwsmeriaid wedi tyfu’n sylweddol, a dw i’n teimlo fy mod yn gallu cysylltu â fy nghwsmeriaid mewn ffordd hollol newydd. Dw i’n gallu siarad Cymraeg, ond dim ond ar lefel sylfaenol iawn, a fydden i ddim wedi gallu ei defnyddio mor effeithiol a hyderus ag y gwnes i heb gefnogaeth Helo Blod. Mae’r gwasanaeth wedi llenwi’r bwlch yna.”

Busnes arall sydd wedi elwa’n uniongyrchol ar Helo Blod yw Siop Lyfrau Trefaldwyn, a agorodd ei drysau i’r gymuned o dan enw uniaith Saesneg yn 2018 ac sydd, ers hynny - gyda chefnogaeth Helo Blod - wedi newid ei henw i fod yn un dwyieithog i adlewyrchu faint o Gymraeg sydd yn yr ardal. Enw’r siop yn wreiddiol oedd ‘Eaves and Lord’, ond mae hi bellach yn cael ei galw’n ‘The Bookshop Montgomery - Siop Lyfrau Trefaldwyn’. 

Meddai Barry Lorde, cyd-berchennog Siop Lyfrau Trefaldwyn: “Fy hoff beth am y gwasanaeth ar-lein yw’r ffaith ei fod mor hawdd i’w ddefnyddio. Mae’r busnes wedi elwa o ran rhoi rhagor o hyder i ni wneud yr iaith yn fwy gweladwy yn y busnes gydag arwyddion dwyieithog, llyfrau Cymraeg, cerddoriaeth Gymraeg yn y siop, a nawr drwy gael enw dwyieithog i’r siop.”

Ychwanegodd Richard Eaves, y cyd-berchennog: “Drwy ychwanegu rhagor o Gymraeg i’n busnes, rydyn ni wedi bod yn denu mwy o gwsmeriaid Cymraeg. Dw i’n meddwl bod rhaid cydnabod a pharchu pwysigrwydd yr iaith o ran hanes Cymru a’i diwylliant, a gallu cyfathrebu â phobl yn eu hiaith gyntaf.”

Gofod arddangos sy’n dangos amrywiaeth o weithiau gan artistiaid a gwneuthurwyr dawnus o Gymru yw’r Galeri, sy’n rhan o Ganolfan Croeso Caerffili ac sy’n edrych dros gastell enwog y dref. Mae’r Galeri, sy’n cael ei redeg gan yr artist lleol Karen Evans, yn cynnig disgrifiadau dwyieithog ar gyfer ei holl ddarnau o gelf, lle mae Karen yn elwa o ddefnyddio gwasanaeth cyfieithu a gwirio ar-lein rhad ac am ddim gan Helo Blod. 

Meddai Karen: “Fel siaradwr Cymraeg angerddol, roedd yn bwysig i fi ymgorffori’r Gymraeg yn y Galeri o ddydd i ddydd. Hyd yn oed fel Cymraes amlieithog, dw i wastad yn gwerthfawrogi pâr proffesiynol o lygaid i wirio fy nghyfieithiadau, a dyna pam mae’n braf gwybod bod Helo Blod ar ben arall y ffôn neu ddim ond clic i ffwrdd.”

Yn ogystal â’r gwasanaeth ar-lein, mae’r Galeri wedi elwa o becynnau adnoddau Cymraeg Helo Blod hefyd, gan gynnwys arwyddion Ar Agor/Ar Gau, bathodynnau Iaith Gwaith a llyfrynnau Cymraeg, er mwyn helpu i amlygu’r defnydd o’r Gymraeg yn y busnes ac annog cwsmeriaid i siarad Cymraeg ac ymgysylltu â'r iaith wrth ymweld. 

Wrth ddathlu’r garreg filltir ochr yn ochr â Helo Blod, meddai Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: 
“Mae Helo Blod, ein gwasanaeth cynghori a chyfieithu rhad ac am ddim i fusnesau ac elusennau wedi helpu miloedd o bobl i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu bywyd bob dydd.  

Gall defnyddio’r iaith eich helpu i ledaenu eich negeseuon ymhellach, troi cwsmeriaid yn ffyddloniaid a dod â chymunedau at ei gilydd.

Os ydych chi’n fusnes, yn elusen neu’n fenter gymunedol, rhowch gynnig ar ein gwasanaeth heddiw i gynyddu faint o Gymraeg rydych chi’n ei ddefnyddio. Gyda'n gilydd gallwn ddyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050.”

Gall busnesau gysylltu â Helo Blod drwy ffonio 03000 25 88 88 neu drwy chwilio am 'helo blod' heddiw i gael cymorth i ddefnyddio rhagor o Gymraeg yn eu busnes.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.