BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Gwrando’n astud

Mae talu sylw i beth sydd gan bobl eraill i’w ddweud yn un o’r sgiliau bywyd pwysicaf i’w datblygu. Bydd gwrando’n astud yn cael effaith sylweddol ar eich bywyd personol a phroffesiynol.

Drwy wneud ymdrech bwrpasol i wrando ar yr hyn sydd gan bobl eraill i’w gynnig, rydych chi’n cael gwybodaeth ddefnyddiol y gallwch seilio eich penderfyniadau arni, yn ogystal â gwybodaeth i gefnogi’ch cynnydd personol. Mae hyn yn golygu y bydd cyfleoedd yn eu cyflwyno eu hunain yn gliriach. Mae gwrando hefyd yn dangos i bobl eich bod yn gwerthfawrogi eu safbwyntiau a’u teimladau – sy’n elfen hollbwysig o ddatblygu perthynas ar sail parch.

Mae creu amgylchedd a threfn sy’n caniatáu i chi gael cyfnodau o fyfyrio tawel yn gwella eich lefelau o ymwybyddiaeth, sy’n eich helpu i wrando’n fwy effeithiol. Mae hyn yn golygu y dylech gael seibiau rheolaidd er mwyn camu’n ôl o’r prysurdeb o’ch cwmpas i glirio’ch meddwl.

Drwy adfywio’ch meddwl, rydych chi’n creu mwy o le i ddirnad yr hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas. Mae’ch meddwl yn derbyn gwybodaeth ac yn gallu gweithredu arni’n fwy effeithiol.

Mae'r dull strwythuredig hwn o wrando yn eich galluogi chi i lunio atebion sy’n golygu nad oes raid i chi wneud pethau ar wib – byddwch chi’n ystyried mwy wrth feddwl. Mae’r ffaith eich bod chi’n bod yn mewnoli popeth ac yn ymgorffori hyn yn eich atebion yn eich gwneud chi’n fwy hoffus i’ch cynulleidfa. Mae gwrando’n astud yn caniatáu i chi fanteisio ar gyfleoedd y byddech chi wedi’u methu fel arall oherwydd y sŵn yn eich meddwl. Felly gwrandewch gyda’ch llygaid a’ch clustiau.

“Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gorffen siarad cyn bod eich cynulleidfa wedi gorffen gwrando.” - Dorothy Sarnoff

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.