BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Hawlio rhyddhad treth YaD

Er gwaethaf y twf flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn cwmnïau yn hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu (YaD) ledled y DU, canran fechan iawn o BBaChau Cymru sy'n gwneud cais i adennill gwariant ar gyfer prosiectau arloesol.

Os ydych yn BBaCh ac wedi datblygu cynnyrch, gwasanaeth neu welliant arloesol yn eich maes sydd wedi goresgyn ansicrwydd, gallwch fod yn gymwys i dderbyn miloedd o bunnau mewn rhyddhad treth - a gallwch hyd yn oed hawlio ar brosiectau nad oeddynt yn llwyddiannus.

Prosiectau sy'n cael eu cyfrif fel prosiectau YaD

Mae'n rhaid i'r gwaith sy'n gymwys ar gyfer rhyddhad YaD fod yn rhan o brosiect penodol sy'n anelu at wneud gwelliannau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, ac yn berthnasol i fasnach eich cwmni - sydd un ai'n bodoli eisoes, neu un yr ydych yn bwriadu ei ddechrau yn dilyn canlyniad yr ymchwil a datblygu.

I dderbyn rhyddhad YaD, mae angen ichi egluro bod:

  • y prosiect wedi chwilio am welliant mewn gwyddoniaeth a thechnoleg
  • wedi gorfod goresgyn ansicrwydd
  • wedi ceisio goresgyn yr ansicrwydd hwn
  • ni ellid ei ddatrys yn hawdd gan weithiwr proffesiynol yn y maes

Gall y prosiectau hyn gynnwys ymchwilio neu ddatblygu proses, cynnyrch neu wasanaeth newydd, neu wella un sy'n bodoli eisoes.

I ddarganfod mwy ynghylch a fyddai eich prosiect yn gymwys, ewch i: https://www.gov.uk/guidance/corporation-tax-research-and-development-rd-relief.

Mathau o ryddhad YaD

Mae gwahanol fathau o ryddhad YaD, yn ddibynnol ar faint eich cwmni ac a yw'r prosiect wedi ei is-gontractio i chi.

Rhyddhad treth YaD ar gyfer BBaChau

Gallwch hawlio rhyddhad YaD BBaCh os oes gennych:

  • Llai na 500 aelod o staff
  • Trosiant sy'n llai na €100m neu gyfanswm mantolen sy'n llai na €86m

Efallai bydd angen ichi gynnwys partneriaid a chwmnïau cysylltiedig pan ydych yn ceisio pennu a ydych yn BBaCh.

Byddai rhyddhad YaD BBaCh yn caniatáu ichi ddidynnu 130% ychwanegol o'ch costau cymwys o'ch elw blynyddol, yn ogystal â'r didyniad 100% arferol, sy'n gyfanswm o 230% o ddidyniad. Gallwch hefyd hawlio credyd treth os yw'r cwmni yn gwneud colled o werth hyd at 14.5% o'r golled sy'n cael ei ildio.

Gall BBaChau sy'n hawlio YaD am y tro cyntaf fod yn gymwys am Sicrwydd Ymlaen Llaw. Os yw hyn yn cael ei ganiatáu, bydd hawliadau YaD yn y 3 cyfnod cyfrifo cyntaf yn cael eu derbyn os ydynt yn unol â'r hyn a drafodwyd a chytunwyd.

Rhyddhad treth YaD ar gyfer cwmnïau mawr

Os oes gan eich cwmni buddsoddwyr allanol, gall hyn effeithio eich statws BBaCh. Ni allwch hawlio rhyddhad YaD BBaCh os yw'r prosiect eisoes yn cael cymorth gwladwriaethol hysbysadwy neu os ydych wedi eich is-gontractio gan gwmni arall - ond efallai y byddwch yn medru hawlio'r Credyd Gwariant YaD (RDEC) (rhyddhad YaD ar gyfer cwmnïau mawr).

Gallwch hawlio rhyddhad YaD am hyd at 2 flynedd wedi diwedd y cyfnod cyfrifo perthnasol.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â chostau cymwys a sut i hawlio, ewch i https://www.gov.uk/guidance/corporation-tax-research-and-development-tax-relief-for-small-and-medium-sized-enterprises.

Am ragor o gyngor ynghylch meini prawf cymwys a sut i hawlio eich rhyddhad treth YaD, cysylltwch â'ch cyfrifydd neu ceisiwch gymorth gan arbenigwr credydau treth YaD.

Blog gan Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.