BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Meddylfryd newydd

Mae meddylfryd newydd yn elfen allweddol o lywio syniadau newydd ac arloesi. Cofiwch, mae'n hanfodol ein bod ni'n cynnal mantais gystadleuol drwy archwilio’n barhaus ffyrdd newydd o wneud pethau. Er mwyn osgoi mynd i rigol bersonol, edrychwch ar bethau o onglau gwahanol yn rheolaidd.

Dyma rai syniadau ar sut i arfer meddylfryd newydd.

  • Meddyliwch am bethau yn eich bywyd neu'ch gyrfa y credwch sydd angen eu  newid – ydych chi’n colli’ch sglein?
  • Nodwch y pethau sydd angen eu newid a'u blaenoriaethu. Ewch ati i ddatblygu cynllun gweithredu a fydd yn sbarduno newid a dull newydd o weithredu.
  • Adolygwch berfformiadau cydweithwyr a gofynnwch i chi'ch hun - beth maen nhw'n ei wneud y dylwn i fod yn ei wneud?
  • Syml ond effeithiol - rhowch gynnig ar lwybr newydd i’r gwaith, gan ei amrywio bob dydd - bydd hyn yn helpu i dorri patrymau sefydledig ac yn meithrin meddylfryd newydd.
  • Cadwch eich clustiau a'ch llygaid ar agor am syniadau newydd - marchnadoedd eraill, sectorau eraill. Er enghraifft, os ydych chi mewn marchnad ddiwydiannol a'ch bod am ddysgu am wasanaeth cwsmeriaid - ewch i gael golwg ar Safonau Aur Gwesty’r Ritz Carlton: https://www.ritzcarlton.com/en/about/gold-standards
  • "Os dydy o ddim wedi torri, peidiwch â’i drwsio" - ond cadwch un llygad ar heddiw a'r llall ar yfory - gall pethau fynd yn rhy gyfforddus weithiau.
  • Peidiwch â bod yn hunanfodlon - mae hynny'n dir peryglus - a bydd hynny’n arwain at berfformiad gwael.
  • Siaradwch â'ch mentor, eich model rôl neu gydweithwyr a chael adborth ar yr hyn sydd angen ei newid yn eu barn nhw.
  • Mae arloesi a gwneud pethau'n wahanol yn cael eu llywio gan feddylfryd newydd - pan fyddwn yn gwneud rhywbeth gwahanol rydym yn cael canlyniad gwahanol.
  • Gall ffordd newydd o wneud pethau fod yn werth chweil ac yn chwa o awyr iach – ac os ydych chi’n gwneud hyn yn rheolaidd, mae’n cyflwyno posibiliadau newydd ac yn arwain at berfformiad eithriadol.

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.