
Yn hanesyddol, nid oes cynrychiolaeth ddigonol wedi bod yng Nghymru o safbwynt masnachfreinio, o ran nifer y masnachfreinwyr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru a'r unedau i ddeiliaid masnachfraint sydd ar waith yng Nghymru.
Nid yw’r ffaith bod ardaloedd eang o'r wlad yn brin eu poblogaeth wedi helpu'r sefyllfa.
Mae unedau masnachfreinio yng Nghymru yn tueddu i fod wedi’u lleoli ar hyd coridor yr M4 (o Gasnewydd i Abertawe) neu o fod wedi'u gwasgaru yma ac acw mewn ardaloedd yng Nghanolbarth Cymru, tebyg i Aberystwyth, neu ar hyd morlin y gogledd, gan gynnwys Wrecsam.
Felly, yn aml mae masnachfreinwyr wedi anwybyddu Cymru, gan chwilio am gyfleoedd masnachfreinio mewn ardaloedd eraill yn y DU. O ganlyniad, mae canolfannau poblogaeth mawr Cymru ar agor i fusnes y gall brandiau masnachfreinio fanteisio arnynt yn fasnachol.
Yn ogystal â'r cyfleoedd masnachol hyn mae swmp sylweddol o gymorth proffesiynol hefyd ar gael yng Nghymru. Mae yma gyfoeth o weithwyr proffesiynol sy'n gallu cynnig cymorth i ddatblygu busnesau a brandiau masnachfraint. Mae nifer o grwpiau masnachfreinio penodedig hefyd yn cynnal cyfarfodydd yn rheolaidd yng Nghymru, gan gynnwys EWIF (Encouraging Women into Franchising) a'r AFA (Approved Franchise Association).
Mae'r ystod eang o gymorth proffesiynol sydd ar gael i ddeiliaid masnachfraint er mwyn iddynt allu cael eu traed tanynt o ran dechrau eu busnes yn cynnwys Busnes Cymru. Mae hwn yn wasanaeth am ddim sy’n cynnig cyngor a chymorth annibynnol a diduedd i bobl sy’n dechrau, yn rhedeg ac yn datblygu busnes yng Nghymru. Gyda chanolfannau rhanbarthol ledled Cymru, maent yn cynnig cyfuniad o gymorth wyneb yn wyneb ac ar-lein, yn ogystal â gweithdai hyfforddi a chyngor unigol:
Mae Busnes Cymru, a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yn cefnogi dechrau a thwf cynaliadwy busnesau bach a chanolig ledled y wlad drwy gynnig mynediad iddynt at wybodaeth, arweiniad a chymorth busnes.
O lunio cynlluniau busnes i sicrhau cyllid a chyflogi staff ychwanegol, mae timau cynghori Busnes Cymru yn gallu darparu ystod eang o wasanaethau cymorth i helpu busnesau i ddechrau, tyfu a chyflawni eu potensial i'r eithaf.
Dechrau busnes
Gyda chanolfannau rhanbarthol ledled y wlad, mae Busnes Cymru yn cynnig gwasanaeth cymorth pwrpasol i fusnesau newydd ac yn y cyfnod cyn dechrau busnes. Gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau diagnosteg busnes, bydd timau cynghori Busnes Cymru yn gweithio gyda pherchnogion busnes i lunio cynllun gweithredu cynhwysfawr i'w helpu i oresgyn unrhyw heriau sy'n codi.
Tyfu eich busnes
P’un ai drwy ddod o hyd i gyllid neu drwy archwilio marchnadoedd rhyngwladol newydd, mae gan Busnes Cymru ystod o adnoddau i helpu entrepreneuriaid wrth iddynt fynd ati i ehangu a thyfu eu busnes gyda rhaglenni Rheoli Cysylltiadau a Thwf Busnes Cymru.
Nod y rhaglenni hyn yw canfod rhwystrau i dwf drwy gynnal prosesau diagnosteg busnes ac yna cynnig cymorth wyneb yn wyneb pellach a chyngor rhwydweithio, yn ogystal â chanfod cyfleoedd ariannu a gweithdai.
Ar ben y cymorth hwn gan Busnes Cymru, mae Banc NatWest hefyd yn rhedeg Canolfan Sbarduno yng Nghaerdydd a allai hefyd fod ar gael i ddeiliaid masnachfraint newydd.
Fel rhan o Wythnos Cymru yn Llundain 2020, bydd Darwin Gray, Busnes Cymru a NatWest yn cynnal digwyddiad panel yn Llundain a bydd arbenigwyr yn ymuno â nhw ar y panel i drafod manteision masnachfreinio yng Nghymru. Cynhelir y digwyddiad am 5.30pm ar ddydd Mercher 4 Mawrth 2020. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Eventbrite.
Blog gan Darwin Gray.