BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Paratoi Arwyddion Diogelwch Dwyieithog

Gyda’r stryd fawr yn raddol agor mae nifer ohonom yn dechrau meddwl am ddychwelyd fesul tipyn at normalrwydd.  Mae pawb yn gwneud eu gorau i sicrhau diogelwch eu staff a defnyddwyr y gwasanaeth. Wrth wneud hynny, rhaid i ni gofio ein bod ni’n byw mewn gwlad ddwyieithog lle mae gan yr iaith Gymraeg statws cyfreithiol.

Mae’r iaith Gymraeg eisoes yn amlwg ar ein stryd fawr, ysbytai a’n mannau cyhoeddus. Felly wrth i sefydliadau ail agor, rhaid sicrhau bod unrhyw arwyddion diogelwch newydd hefyd yn cadw at yr un arfer o ddwyieithrwydd sy’n cael ei werthfawrogi gan y cyhoedd ac yn ddisgwyliedig gan arianwyr.

Mae Tim Hybu Comisiynydd y Gymraeg ar gael i’ch helpu chi. Dyma’r cyngor sydd yn ein canllaw ar ddylunio dwyieithog:

Arwyddion
“Dylid cofio bod gwahanu ieithoedd yn arbennig o bwysig ar arwyddion. Dylid ystyried ffont, fformat, lliw, maint, eglurder, amlygrwydd ac ansawdd. Gellid dylunio rhai arwyddion i rannu teitlau sy’n gyffredin yn y ddwy iaith. Weithiau mae pictogramau yn gweithio’n well na geiriau, os yw hynny’n briodol.”

Dyma rai ymadroddion defnyddiol -

Cymraeg

Saesneg

Croeso nôl

Welcome Back

Os gwelwch yn dda

Please

#cadwchynsaff

#staysafe

Ciw ffordd yma

Please queue here

Rydym ar agor

We’re open

Cadwch 2 fetr oddi wrth eich gilydd

Keep a distance of 2m apart

Talwch gyda cherdyn os yn bosibl

Pay by card when possible

Defnyddiwch yr hylif golchi dwylo

Please use hand sanitiser provided

Mae’r siop yma yn cael ei glanhau yn drylwyr yn gyson

Thorough cleaning routines in place in this store

Dylunio effeithiol a chywirdeb iaith
Dylai unrhyw ddylunydd neu gwmni creu arwyddion allu cynhyrchu arwyddion o safon yn ddwyieithog. Mae rhai esiamplau isod. Os hoffech unrhyw help ar ddod o hyd i ddylunydd neu gynhyrchydd arwyddion sy’n cwrdd â'ch anghenion neu os hoffech help gyda phrawfddarllen, mae croeso i chi gysylltu, Ebost: hybu@comisiynyddygymraeg.cymru

Rydym newydd ddiweddaru ein system sy'n cefnogi busnesau ac elusennau. Felly, tu hwnt i arwyddion, mae nawr yn gyfle grêt i gysylltu â ni.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.