BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Trysori eich arian

O feddwl am arian, mae angen i bob busnes sydd â’r potensial i dyfu reoli ei arian. Tra bod y rhan fwyaf o fusnesau’n llyncu arian, mae busnesau sy’n sydd â’r potensial i dyfu yn ei draflyncu’n awchus. Yn y mwyafrif o achosion, mae busnesau’n methu, nid oherwydd diffyg elw, ond oherwydd nad oes digon o arian ganddynt. Mae’n hen ystrydeb gyfarwydd ond wir mai arian yw’r gwaed sy’n rhedeg trwy wythiennau busnes.

Felly trysorwch eich arian. Yn benodol, cyfyngwch ar wariant gymaint â phosibl pan a phryd bynnag y gallwch.

Er enghraifft:

  • Ceisiwch drafod rhandaliadau gyda chwsmeriaid – yn hytrach na chael eich talu ar ddiwedd contract neu ar ddiwedd pob mis. Mae hyn yn bwysig iawn os ydych chi’n gorfod talu isgontractwyr – pam mai chi ddylai sicrhau ‘llif ariannol’ prosiect.
  • Gwnewch hi’n gwbl glir pryd mae taliad yn ddyledus. Nodwch ddyddiad penodol. Mae taliad yn ddyledus ymhen 30 diwrnod yn golygu beth? 30 diwrnod ar ôl i chi anfon yr anfoneb, 30 diwrnod ar ôl i Adran Gyfrifon y cwsmer ei derbyn?
  • Mae angen adnodd penodedig. Un unigolyn a fydd yn gofyn am yr arian yn ddiflino. Peidiwch â gofyn i’ch swyddogion gwerthu wneud hyn – fyddan nhw ddim yn ei wneud! Neu byddant yn ei wneud yn wael – neu’n niweidio’r berthynas â’r cwsmer (fel arfer nid yr unigolyn rydych yn ceisio cael arian ganddo yw’r sawl  sy’n archebu – gallech chi fod yn gwastraffu’ch amser yn ceisio cael yr arian gan yr unigolyn hwnnw)
  • Trefnwch archwiliadau credyd a geirdaon credyd ar gyfer cwsmeriaid newydd. Peidiwch â chael eich twyllo. Roedd cyn arlywydd UDA, Ronald Regan, yn credu’n gryf mewn ‘ymddiried - ond dilysu’ yn ei drafodaethau â’r hen Undeb Sofietaidd. Dylech ddefnyddio’r un ddamcaniaeth wrth ymdrin â chwsmeriaid newydd sy’n gofyn am delerau credyd
  • Gweithredwch brosesau clir ar gyfer ymdrin â chyfrifon dyledus
  • Rhowch y gorau i gyflenwi nwyddau (neu’r gwasanaeth) os nad ydynt yn talu!
  • Os ydych chi’n penderfynu rhoi’r gorau i gyflenwi, rhowch wybod i’r defnyddiwr, nid yr Adran Gyfrifon yn unig. Efallai y byddwch chi’n cael eich synnu pa mor gyflym y byddant yn talu!
  • Lluniwch ragolygon llif arian rheolaidd, a’u diweddaru, er mwyn bod yn barod am yr hyn sydd i ddod. Mae’n gwneud argraff dda ar y Rheolwr Banc hefyd
  • Cadwch mewn cysylltiad rheolaidd â’ch banc. Rhannwch eich rhagolygon gyda nhw. Dydyn nhw ddim yn hoffi cael eu synnu - felly da chi peidiwch â gwneud hynny
  • Trysorwch eich arian. Peidiwch â gadael i ddiffyg arian ddifetha busnes sy’n llwyddiannus ac yn gwneud elw fel arall
  • Heb os, bydd cwmnïau sydd â’r potensial i dyfu angen pwyso a mesur opsiynau ar gyfer ariannu ehangu. Gofynnwch am gyngor arbenigol ar y materion hyn a gofyn i chi eich hun – ydych chi eisiau cyllid ecwiti preifat? Ydw i eisiau dyled? ac ati

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.