BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Prentisiaethau 2021

Cynhelir Wythnos Prentisiaethau rhwng 8 a 14 Chwefror 2021. Mae'n ddathliad blynyddol o brentisiaethau, a'r gwerth y maent yn ei roi i gyflogwyr a dysgwyr, ar draws Cymru. Mae prentisiaethau yn caniatáu i fusnesau recriwtio talent newydd, sy’n awyddus i ddysgu, gan lenwi bylchau sgiliau mewn ffordd gosteffeithiol a galluogi dysgwyr, o bob oed, i wella eu sgiliau.

Mae Wythnos Prentisiaethau, sy’n dod â phrentisiaid, darparwyr hyfforddiant, rhieni a chyflogwyr at ei gilydd, yn amlygu'r gwaith sy'n cael ei wneud ar draws y gymuned brentisiaethau gyfan i hyrwyddo prentisiaethau a'r effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar draws Cymru.

Sut i gymryd rhan:

  • Cynnal gweminar neu ddigwyddiad rhithiol. Gwahoddwch eich rhanddeiliaid a'ch cyfoedion a dywedwch wrthym pam rydych chi'n meddwl bod prentisiaethau'n benderfyniad doeth.
  • Gadael i brentis gymryd yr awenau ar eich sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol am y diwrnod, cynnal sesiwn holi ac ateb neu gynhyrchu fideo y tu ôl i'r llenni o ddiwrnod ym mywyd prentis.
  • Gallai unigolion greu fideos ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, neu bostiadau, gan esbonio pa gyngor fydden nhw'n ei roi i fersiwn iau o’u hunain? Pa dri gair fydden nhw'n eu defnyddio i ddisgrifio eu taith brentisiaeth? Ble maen nhw'n gweld eu hunain mewn deng mlynedd?
  • Cynnal sesiwn holi ac ateb rhithiol i rieni a gofalwyr - pam y gallai prentisiaeth fod yn llwybr perffaith i gyflymu gyrfaoedd pobl ifanc? Pa fythau ydych chi am eu chwalu?
  • Gallai busnesau ganolbwyntio ar brentis y maent yn ei gyflogi, neu gyn-brentis sydd bellach yn aelod o staff llawn amser. Gallai cyflogwyr hyd yn oed ddewis un prentis y dydd, gan ddangos rolau gwahanol o fewn y cwmni a’r gwahaniaeth y mae prentisiaid wedi'i wneud yn eu timau a'r busnes yn ei gyfanrwydd.
  • Dilyn Llywodraeth Cymru ar Facebook a Twitter. Cadw golwg am bostiadau #WPCymru ar y cyfryngau cymdeithasol a’u rhannu ar eich sianeli eich hun.
  • Rhannu’r cariad ar Ddiwrnod Sant Ffolant. Ar 14 Chwefror, hoffem ganolbwyntio ar yr hyn rydych chi'n ei garu am brentisiaethau ac Wythnos Prentisiaethau. Beth ydych chi'n ei garu fwyaf am gyflogi prentisiaid neu am fod yn brentis? Beth am greu fideo cymdeithasol, blog neu bost ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol i rannu eich meddyliau, gan ddefnyddio #WPCymru

I gefnogi’r Wythnos Prentisiaethau ewch i https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant/prentisiaethau/pecyn-cymorth-wythnos-prentisiaethau-cymru-2021 lle cewch ddeunyddiau marchnata am ddim yn ein pecyn cymorth defnyddiol.

I gael rhagor o wybodaeth am brentisiaethau, ewch i: https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant/prentisiaethau

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.