BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Acas yn cyhoeddi cyngor newydd ar weithio hybrid

Mae Acas wedi cyhoeddi cyngor newydd i helpu cyflogwyr ystyried a allai gweithio hybrid fod yn opsiwn ar gyfer eu gweithle a sut i’w gyflwyno’n deg.

Math o weithio’n hyblyg yw gweithio hybrid, lle mae staff yn rhannu eu hamser rhwng gweithio o bell a gweithio yng ngweithle eu cyflogwr. 

Mae’r cyngor yn cynnwys awgrymiadau i gyflogwyr ar sut i:

  • ymgynghori’n eang gyda staff i drafod ystyriaethau ymarferol cyflwyno’r drefn hon
  • ystyried a fyddai’n gweithio mewn swyddi penodol ac a yw’n addas ar gyfer eu sefydliad
  • creu polisi gweithio hybrid
  • ymdrin â cheisiadau gweithio hybrid gan staff.

Darllenwch gyngor Acas ar weithio hybrid.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.