BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adnodd caffael bwyd ar-lein newydd, 'Prynu Bwyd Addas at y Dyfodol'

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio menter newydd i annog mwy o wariant lleol ar fwyd gan y GIG, ysgolion a llywodraeth leol yng Nghymru i helpu i gefnogi cynhyrchwyr o Gymru, creu mwy o swyddi a hybu ffyniant mewn cymunedau lleol.

Mae adnodd caffael bwyd ar-lein newydd, 'Prynu Bwyd Addas at y Dyfodol' yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i gefnogi economïau lleol bob dydd Cymru.
Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod yr Economi Sylfaenol yn gyfrifol am bedwar o bob deg swydd, a £1 ymhob tri sy'n cael ei wario yng Nghymru.

Mae bwyd yn sector Economi Sylfaenol hanfodol sydd wedi wynebu – ac sy'n dal i wynebu - nifer o heriau yn dilyn Brexit, pandemig Covid ac yn fwy diweddar, y rhyfel yn Wcráin a biliau ynni a thanwydd cynyddol.

Mae gan gaffael y sector cyhoeddus rôl bwysig o ran helpu i fynd i'r afael â'r heriau hyn ac ail-leoleiddio'r cadwyni bwyd, a sicrhau cymaint o hunangynhaliaeth a gwydnwch â phosibl.

Mae'r canllawiau cyfreithiol newydd yn yr adnodd ar-lein yn egluro'r hyn y gellir ei gynnwys mewn tendrau bwyd, tra'n parhau i gydymffurfio â rheolau caffael, i sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl i gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd lleol.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gweinidog yn lansio menter newydd i annog mwy o fwyd o Gymru ar blatiau y sector cyhoeddus yng Nghymru | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.