BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adnodd Seiber Am Ddim i Fusnesau – CyberAlarm yr Heddlu

Beth yw CyberAlarm yr Heddlu?

Mae CyberAlarm yr Heddlu yn adnodd am ddim i helpu’ch busnes i ddeall a monitro gweithgarwch seiber maleisus. Mae’n gweithredu fel “Camera CCTV” sy’n monitro traffig a welir gan gysylltiad eich busnes â’r rhyngrwyd. Bydd yn canfod a darparu adroddiadau rheolaidd am weithgarwch maleisus amheus, gan leihau pa mor agored yw’ch busnes i niwed.

Ar ôl i chi ddod yn aelod o CyberAlarm yr Heddlu, byddwch yn gosod ‘Gweinydd Rhithwir CyberAlarm’ ar eich system, a fydd yn cael ei ddefnyddio i gasglu a phrosesu cofnodion traffig sy’n nodi gweithgarwch amheus o’ch wal dân/porth rhyngrwyd.

Beth yw’r manteision i fy musnes?

  • adroddiadau rheolaidd
  • nodi mannau bregus eich busnes
  • gwybodaeth a deallusrwydd busnes
  • helpu’r heddlu i’ch helpu chi

Os ydych chi am fod yn rhan o CyberAlarm yr Heddlu neu am gael rhagor o wybodaeth am dderbyn diweddariadau ac adroddiadau diogelwch rheolaidd er mwyn eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r bygythiadau seiber presennol, cofrestrwch yn https://cyberalarm.police.uk/ 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.