BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adroddiad Blynyddol Arolwg Defnydd Llety Croeso Cymru 2021

Mae’r arolygon deiliadaeth yn darparu gwybodaeth am dueddiadau yn y galw am lety twristiaeth yng Nghymru ar gyfer 2021.

Amcanion allweddol yr arolwg defnydd llety yw monitro a gwerthuso tueddiadau mewn perfformiad llety a llywio cynllunio a datblygu twristiaeth ranbarthol a chenedlaethol i Croeso Cymru a rhanddeiliaid twristiaeth eraill. At hynny, mae’r arolwg yn darparu gwybodaeth fusnes i ddarparwyr llety a busnesau twristiaeth eraill i’w cynorthwyo i ehangu a datblygu. Mae adroddiadau meincnodi sy’n dangos cymariaethau â darparwyr llety eraill ar gael i’r holl gyfranogwyr sy’n cyflwyno eu data bob mis, gan ddarparu gwybodaeth hynod ddefnyddiol i fusnesau.

Dilynwch y ddolen i weld Adroddiad Blynyddol Arolwg Defnydd Llety Croeso Cymru 2021.pdf (llyw.cymru)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.