BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adroddiad Chwarae Teg: Profiadau Gwaith Menywod dros 50 yng Nghymru

Mae adroddiad Chwarae Teg 'Profiadau Gwaith Menywod dros 50 yng Nghymru' yn datgelu bod llawer o fenywod yn y grŵp oedran hwn yn wynebu rhwystrau rhag aros mewn gwaith, ac yn profi anfantais a gwahaniaethu yn y gwaith.

Mae symptomau’r menopos, cyfrifoldebau gofalu ac anabledd yn rhwystro menywod dros 50 oed rhag symud ymlaen yn y gweithle. Mae gwella mynediad at hyfforddiant, cymorth a gweithio hyblyg yn allweddol i alluogi menywod dros 50 oed i ddatblygu ac addasu i ofynion newidiol yn y gweithle.

Mae'r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion i gyflogwyr gan gynnwys y canlynol:

  • dylai cyflogwyr fod â pholisi gweithio hyblyg ysgrifenedig
  • dylai cyflogwyr sicrhau bod ymwybyddiaeth o'r menopos ac oedraniaeth rhywedd yn rhannau penodol o'u hagenda Amrywiaeth a Chynhwysiant
  • dylai fod gan gyflogwyr bolisi ysgrifenedig ar absenoldeb gwyliau i ofalwyr 

I gael mwy o wybodaeth ac i lawrlwytho'r adroddiad, cliciwch ar y ddolen ganlynol Working Experiences of Women over 50 in Wales - Chwarae Teg
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.