BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adroddiadau RIDDOR ar COVID-19

Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ganllawiau penodol ar bryd y dylech wneud adroddiad RIDDOR (dan y Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus) ar COVID-19.

Dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y dylech chi wneud adroddiad dan RIDDOR yn ymwneud â’r coronafeirws:

  • pan fo damwain anfwriadol yn y gwaith wedi rhoi rhywun mewn perygl o ddod i gysylltiad posibl neu wirioneddol â’r coronafeirws, mae’n rhaid cofnodi hyn fel digwyddiad peryglus
  • pan fo gweithiwr wedi cael diagnosis COVID-19 a bod tystiolaeth resymol ei fod wedi dod i gysylltiad â’r feirws yn y gwaith, mae’n rhaid nodi hyn fel achos o haint
  • pan fo gweithiwr yn marw yn sgil dod i gysylltiad galwedigaethol â’r coronafeirws

Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am ragor o fanylion.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.