BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Aerdymheru ac awyru yn ystod y pandemig coronafeirws

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i gyflogwyr sicrhau cyflenwad digonol o awyr iach yn y gweithle ac nid yw hyn wedi newid.

Gall awyru da helpu i leihau’r risg o ledaenu coronafeirws yn y gweithle.

Mae’n bwysig canolbwyntio ar wella awyru’n gyffredinol, drwy awyr iach neu systemau mecanyddol yn ddelfrydol.

Lle’n bosibl, ystyriwch ffyrdd o gynnal a chynyddu’r cyflenwad o awyr iach, er enghraifft drwy agor ffenestri a drysau (nid drysau tân).

Am ragor o wybodaeth am ddefnyddio systemau aerdymheru ac awyru yn gyffredinol yn ystod y pandemig, ewch i wefan yr Awdurdod Gwdeithredol Iechyd a Diogelwch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.