BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Aerdymheru ac awyru yn ystod yr argyfwng coronafeirws

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi diweddaru eu canllawiau ar aerdymheru ac awyru yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Mae’r canllawiau wedi’u seilio ar y wybodaeth ddiweddaraf ac efallai y byddant yn cael eu diweddaru pan ddaw gwybodaeth newydd i’r fei.

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i gyflogwyr sicrhau cyflenwad digonol o awyr iach yn y gweithle a dyw hyn heb newid.

Gall awyru da helpu i leihau’r risg o ledaenu coronafeirws yn y gweithle.

Mae’n bwysig canolbwyntio ar wella awyru yn gyffredinol, yn ddelfrydol drwy awyr iach neu systemau mecanyddol.

Os yw’n bosibl, meddyliwch am ffyrdd o gynnal a chynyddu’r cyflenwad o awyr iach, er enghraifft drwy agor ffenestri a drysau (ac eithrio drysau tân).

Am ragor o wybodaeth am ddefnyddio systemau aerdymheru ac awyru cyffredinol yn ystod yr argyfwng coronafeirws, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.