BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ail gartrefi: amrywiadau lleol i gyfraddau'r dreth trafodiadau tir

Mae Llywodraeth Cymru am gael  eich barn ar amrywiadau lleol arfaethedig i’r dreth trafodiadau tir (TTT) ar gyfer ail gartrefi, llety gwyliau tymor byr ac eiddo preswyl ychwanegol arall o bosibl, ac maentyn ymgynghori ar newidiadau i’r TTT er mwyn rhoi mwy o gyfle i bobl sy'n awyddus i brynu cartrefi i fyw ynddynt yn barhaol.

Rydym yn ceisio barn ar y canlynol:

  • maint yr ardaloedd lle gallai amrywiadau lleol gael eu cyflwyno, er enghraifft, ardaloedd awdurdodau lleol cyfan neu gymunedau llai
  • y dull o nodi’r ardaloedd lle gallai cyfraddau gwahanol fod yn gymwys
  • y mathau o drafodiadau a allai fod yn destun cyfraddau gwahanol mewn ardaloedd lleol

Mae ymgynghoriad yn cau 28 Mawrth 2022.

Am ragor o wybodaeth ewch i LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.