BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Annog busnesau i baratoi ar gyfer ap COVID-19 y GIG

Mae busnesau ledled Cymru a Lloegr, fel tafarndai, bwytai, salonau trin gwallt a sinemâu, yn cael eu hannog i arddangos posteri cod QR y GIG yn eu mynedfeydd, fel bod cwsmeriaid sydd wedi lawrlwytho ap COVID-19 newydd y GIG yn gallu defnyddio eu ffonau clyfar i gofrestru’n hawdd yn y lleoliadau hyn.

Daw'r cam cyn lansio ap COVID-19 y GIG ledled Cymru a Lloegr ddydd Iau 24 Medi 2020.

Bydd cofrestru gyda'r ap yn galluogi pobl i gadw dyddiadur o'r lleoliadau maent wedi ymweld â hwy, a fydd yn cael eu cadw'n ddiogel yn yr ap. Os bydd achosion o COVID-19 yn gysylltiedig â'u hymweliad, bydd defnyddwyr yn cael neges rhybudd gynnar gan y GIG. Os byddant yn cael prawf positif ar gyfer COVID-19, bydd pobl yn gallu defnyddio'r dyddiadur i ddweud wrth dimau olrhain cysylltiadau ble maent wedi bod, gan helpu i reoli COVID-19 a diogelu pobl eraill.

Dylai lleoliadau lawrlwytho'r codau QR o wefan GOV.UK.

Ewch i wefan Llyw.Cymru am ragor o wybodaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.