BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Anogir cwmnïau i ffeilio cyfrifon yn gynnar ac ar-lein er mwyn osgoi cosbau

Gall rhedeg eich cwmni eich hun fod yn gyffrous ond hefyd yn heriol. Mae gan gyfarwyddwyr lawer o gyfrifoldebau gan gynnwys cadw cofnodion cwmnïau’n gyfoes a sicrhau eu bod yn cael eu ffeilio ar amser.
Rhaid i bob cwmni cyfyngedig, p’un a ydynt yn masnachu ai peidio, ddarparu cyfrifon blynyddol bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys cwmnïau segur.

Cyfrifoldeb y cyfarwyddwyr yw ffeilio cyfrifon cwmni. Gallwch gael cofnod troseddol, dirwy neu anghymhwysiad os nad ydych yn cyflwyno eich cyfrifon yn brydlon. 

Hyd yn oed os yw cyfrifydd yn ffeilio cyfrifon eich cwmni ar eich rhan, peidiwch ag anghofio mai eich cyfrifoldeb chi o hyd yw sicrhau eu bod yn cael eu ffeilio ar amser.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Anogir cwmnïau i ffeilio cyfrifon yn gynnar ac ar-lein er mwyn osgoi cosbau - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.