BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

APC 18: meithrin gallu modurol carbon isel y DU

Gall busnesau cofrestredig yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £25 miliwn ar gyfer ymchwil a datblygu cam hwyr a ddatblygwyd yn y DU, i gefnogi twf mewn gallu gyriant carbon isel datblygedig yn y sector modurol a'i gadwyn gyflenwi gysylltiedig.

Mae Advanced Propulsion Centre (APC) 18 yn chwilio am y canlynol:

  • prosiectau sy'n cefnogi galluoedd hirdymor y DU trwy sicrhau buddsoddiad Ymchwil a Datblygu tymor hir
  • prosiectau y gellir eu cyflawni trwy ei gadwyn gyflenwi gysylltiedig, trwy ddylunio, adeiladu a gweithgynhyrchu cerbydau dim-allyriadau peipen ôl.

Yn ddelfrydol, bydd eich prosiect yn cyflwyno'r ddau beth hyn, er mwyn sicrhau bod y DU yn ateb y galw gan wneuthurwyr ceir.

Cystadleuaeth agored i gydweithrediadau yn unig.

Anfonwch gais erbyn 5 Mai 2021.

Rhagor o wybodaeth yn GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.