BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru 2022

Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru cyntaf erioed yn 2019, dyma ddiwrnod allan gyda gwahaniaeth – diwrnod na fydd unrhyw ffermwr neu goedwigwr eisiau ei golli!  

Pryd: 15 Mehefin 2022

Ble: Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-muallt, Powys, LD2 3SY

Bydd cyfres o brif siaradwyr a chyflwynwyr rhyngwladol yn rhannu eu profiadau a'u safbwyntiau, gan gynnig cymorthfeydd un-i-un, gweithdai a seminarau ar bynciau sy'n ymwneud ag amaeth, gan gynnwys:

  • Arloesi – ffyrdd mwy effeithlon o weithio sy’n manteisio ar dechnolegau newydd cyffrous  
  • Arallgyfeirio – syniadau newydd a fydd yn eich helpu i gynyddu elw  
  • Da byw – ffyrdd newydd o gryfhau perfformiad a gwella cynhyrchiant
  • Cynaliadwyedd – arbed amser ac arian, cynyddu allbynnau, lleihau eich ôl troed carbon
  • Newid y ffordd rydych chi'n meddwl ac yn gweithio – cymorth, arweiniad, hyfforddiant ac arddangosiadau ymarferol a fydd yn eich paratoi chi a'ch busnes ar gyfer y dyfodol...

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru 2022 | Farming Connect (gov.wales)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.