BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg Mabwysiadu Technoleg Ddigidol ar gyfer y Sector Cyfreithiol yng Nghymru 2023

Anogir y gymuned gyfreithiol yng Nghymru i gymryd rhan yn yr Arolwg Mabwysiadu Technegol Ddigidol, i helpu i gynhyrchu tystiolaeth ar fuddion a enillwyd gan fusnesau cyfreithiol sy'n defnyddio technolegau digidol a llywio ymyriadau Llywodraeth Cymru i gefnogi digideiddio yn y sector cyfreithiol yng Nghymru. 

Nod y prosiect ymchwil academaidd hwn yw deall sut mae'r sector cyfreithiol yn mabwysiadu ac yn defnyddio adnoddau digidol a'r heriau sy'n wynebu mabwysiadu. Mae'r astudiaeth yn cael ei chynnal gan Uned Ymchwil Economi Cymru (WERU) Ysgol Busnes Caerdydd ac fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru.

Daw'r arolwg i ben ar 23 Mehefin 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Qualtrics Survey | Qualtrics Experience Management


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.