BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg Masnach Cymru

Gwahoddwyd Lywodraeth Cymru 8000 o fusnesau yng Nghymru i gymryd rhan yn nhrydydd Arolwg Masnach Cymru.

Dywedodd Jonathan Price, Prif Economegydd Llywodraeth Cymru:
“Yn sgil Ymadael â'r UE, a'r materion parhaus a achoswyd gan Covid-19, yr ydym yn wynebu heriau economaidd digynsail. Rydym am ddeall y rhain yn well a mesur yr effeithiau ar fusnesau yng Nghymru.

“Bydd eich cyfranogiad yn ein helpu i ddeall unrhyw newidiadau allweddol mewn patrymau masnach busnesau sydd wedi'u lleoli, neu safleoedd gweithredu, yng Nghymru ym mlwyddyn galendr 2020. Os ydych wedi derbyn llythyr, cymerwch ran a chwblhewch yr arolwg - gallai eich cyfranogiad ddylanwadu ar benderfyniadau a allai effeithio ar agweddau allweddol ar eich diwydiant.” 

Dyma'r unig arolwg sy'n canolbwyntio ar weithgarwch masnach yng Nghymru, ac mae'n bwydo'n uniongyrchol i'r polisi masnach a'r sylfaen dystiolaeth cymorth busnes. Mae'n darparu llu o fewnwelediad a gwybodaeth bwysig am fasnach nad yw ar gael fel arall i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn  helpu i ddatblygu polisïau effeithiol a rhoi ar waith y pecynnau cymorth o'r math cywir sy'n adlewyrchu anghenion busnesau yng Nghymru.

Bydd yr arolwg ar agor tan ganol Rhagfyr 2021 felly mae amser o hyd i gymryd rhan. 

Bydd y rhan fwyaf o fusnesau a wahoddir i gymryd rhan yn cyflogi mwy nag 20 o bobl ond gwahoddir rhai busnesau llai hefyd. Mae ymateb pob busnes i'r arolwg hwn yn y pendraw yn llywio gwaith i roi hwb i'n hadferiad economaidd ac adeiladu Cymru well. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu IFF Research i gynnal yr arolwg hwn ar eu rhan.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am sut i lenwi'r arolwg, anfonwch e-bost at ArolwgMasnachCymru@iffresearch.com neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0300 0259 000. 

I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ganllawiau Arolwg Masnach Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.