BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Banc Datblygu Cymru yn cynnig cymhellion Sero Net

Bydd menter newydd wedi'i chynllunio i helpu busnesau i leihau eu heffaith carbon yn cael ei chyflymu a'i lansio yn y flwyddyn newydd, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi.

Mae'r Gweinidog wedi gofyn i Fanc Datblygu Cymru gyflymu ei gynlluniau ar gyfer cynllun datgarboneiddio buddsoddi i arbed, gyda thelerau mwy ffafriol ar gyfer busnesau sydd am fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a mesurau effeithlonrwydd ynni.

Bydd cyflymu'r gwaith o gyflwyno'r cynllun yn galluogi busnesau ledled Cymru i gymryd camau ynghynt er mwyn buddsoddi mewn prosiectau sydd â'r nod o leihau faint o ynni maen nhw'n ei ddefnyddio a rheoli eu biliau ynni'n well. Bydd hyn yn darparu cymorth y mae ei angen yn fawr iawn ar adeg pan fydd costau busnes yn mynd yn uwch ac yn uwch, ac yn helpu i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau economi wyrddach.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://llyw.cymru/banc-datblygu-cymru-yn-cynnig-cymhellion-sero-net 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.