BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bwletin Cyflogwyr CThEM Hydref 2021

Mae rhifyn Hydref o’r Bwletin Cyflogwyr yn dod â’r diweddaraf i chi o CThEM a chanllawiau i gefnogi cyflogwyr ac asiantau cyflogres.

Mae ynddo wybodaeth bwysig am:

  • Y Cynllun Talu Wrth Ennill, gan gynnwys newidiadau treth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Pontio’r DU a Chonfensiwn Y DU – Y Swistir y cytunwyd arno’n ddiweddar ar gydlynu Diogelwch Cymdeithasol
  • Gwybodaeth am COVID-19 gyda diweddariadau ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws
  • diweddariadau treth a newidiadau i ganllawiau, gan gynnwys gwybodaeth am rwymedigaeth y Cynllun Talu Wrth Ennill sy’n ymwneud â Materion Alltraeth

Bwletin ar-lein yn unig yw hwn. Gallwch gofrestru i dderbyn gwasanaeth rhybuddion e-bost cyflogwyr CThEM a chewch negeseuon e-bost sy’n dweud wrthych pryd fydd y rhifyn nesaf ar gael.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Fwletin Cyflogwyr: Hydref 2021 - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.