BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bwrsariaeth Niwclear ar agor i geisiadau

Mae’r cynllun Bwrsariaeth Niwclear, a reolir gan yr Academi Sgiliau Niwclear Cenedlaethol (NSAN) yn darparu cymorth ariannol i unigolion ar gyfer cyfleoedd addysg a hyfforddiant gyda’r nod o’u helpu i ddechrau a datblygu eu gyrfaoedd proffesiynol yn y byd niwclear.

Mae cylch diweddaraf y Fwrsariaeth Niwclear yn canolbwyntio ar unigolion sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan Covid-19, drwy ddarparu cymorth ariannol i’r rhai sydd ar ffyrlo neu wedi’u diswyddo o gwmni sy’n gweithio yn y sector niwclear.

Bydd y Fwrsariaeth Niwclear hefyd yn cefnogi gweithwyr BBaCh sydd am uwchsgilio neu sydd am ddatblygu sgiliau newydd drwy ddefnyddio rhaglenni astudio neu hyfforddiant ar-lein.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4pm ar 30 Mehefin 2020.

O ystyried y mesurau cadw pellter cymdeithasol sydd ar waith ar hyn o bryd yn sgil cyfyngiadau Covid-19, dim ond ceisiadau am gyrsiau i’w cwblhau drwy ddysgu o bell fydd yn cael eu derbyn yn y cylch hwn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan NSAN.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.