BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell

Bydd Diwrnod Diogelwch Bwyd y Byd yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 7 Mehefin 2022 ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn lansio ymgyrch i atgoffa busnesau bwyd am gynnal safonau hylendid, fel bod bwyd yn ddiogel i ddefnyddwyr, ac i sicrhau bod busnesau yn barod ar gyfer eu harolygiadau.

Ers dechrau’r pandemig, mae awdurdodau lleol wedi gweld gostyngiad o ran cydymffurfiaeth â safonau diogelwch bwyd, yn rhannol oherwydd problemau parhaus mewn perthynas â recriwtio a chadw staff. Mae’r ASB yn awyddus i atgoffa busnesau o'u cyfrifoldebau ac i gynnig awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar sut i wella eu gweithdrefnau mewnol.  

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Bwyd mwy diogel, busnes gwell | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.