BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cael gwared ar fesurau ansolfedd dros dro

Bydd mesurau dros dro a gyflwynwyd i gefnogi busnesau rhag ansolfedd yn ystod y pandemig yn cael eu dileu’n raddol o 1 Hydref 2021.

Mae cwmnïau sy’n cael anawsterau ariannol yn sgil y pandemig wedi’u diogelu rhag camau gan gredydwyr ers mis Mehefin y llynedd, drwy Ddeddf Ansolfedd Corfforaethol a Llywodraethu 2020.

Y nod yma oedd sicrhau nad oedd busnesau hyfyw a effeithiwyd gan y cyfyngiadau ar fasnachu yn y cyfnodau clo yn cael eu gorfodi i ansolfedd yn ddiangen.

Bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno i helpu cwmnïau llai i godi ar eu traed i roi mwy o amser iddynt fasnachu eu ffordd yn ôl i iechyd ariannol cyn y gall credydwyr gymryd camau i’w dirwyn i ben.

Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn:

  • Diogelu busnesau rhag credydwyr yn mynnu ad-daliad ar ddyledion cymharol fach drwy godi’r trothwy dyledion cyfredol ar gyfer deiseb dirwyn i ben i £10,000 neu fwy dros dro.
  • Ei gwneud hi’n ofynnol i gredydwyr ofyn am gynigion ar gyfer talu gan fusnes dyledwyr, gan roi 21 diwrnod iddynt ymateb cyn y gallant fwrw ymlaen â chamau dirwyn i ben.
  • Bydd y mesurau hyn mewn grym nes 31 Mawrth 2022.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.