BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cam-drin domestig: Cefnogi’ch gweithwyr yn ystod coronafeirws

Gall y gorchymyn i aros gartref achosi gorbryder i’r rhai sy’n profi neu’n teimlo eu bod mewn perygl o gam-drin domestig.

Fel cyflogwr, gallwch wneud cyfraniad pwysig tuag at sicrhau staff y gallant adael eu cartrefi os ydyn nhw’n dioddef cam-drin domestig a bod cymorth ar gael, gan gynnwys cymorth ar-lein, llinellau cymorth, llochesi a’r heddlu.

Gall Byw Heb Ofn gynnig cymorth a chyngor i:

  • unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig
  • unrhyw un sy’n gwybod am rywun sydd angen cymorth, er enghraifft ffrind, perthynas neu gydweithiwr
  • ymarferwyr sydd angen cyngor proffesiynol

Bydd pob sgwrs gyda Byw Heb Ofn yn gyfrinachol a gallwch gysylltu â’r gwasanaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos fel a ganlyn:

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan LLYW.Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.