BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Camau newydd i ddiogelu cymunedau Cymraeg

Heddiw (3 Awst 2022), bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn rhoi rhagflas o’r camau gweithredu sy’n rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiogelu cymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith a lle mae nifer uwch o ail gartrefi.

Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys nifer o ymyraethau megis anogaeth i berchnogion tai i roi cyfle teg i bobl leol wrth werthu eu heiddo. Bydd y Gweinidog hefyd yn cyhoeddi Comisiwn Cymunedau Cymraeg, fydd yn dod ag arbenigwyr ynghyd i wneud argymhellion polisi, er mwyn diogelu a chryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Bydd y Gweinidog yn rhannu’r darpar gynlluniau gan gynnwys 'cynllun cyfle teg' gwirfoddol a fydd yn helpu perchnogion i wneud penderfyniadau ynghylch sut i werthu eu cartref, drwy ganiatáu i eiddo gael eu marchnata yn lleol yn unig am gyfnod penodol. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda sefydliadau megis arwerthwyr tai i fynd i'r afael ag anghenion tai y cymunedau hynny.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i:

Defnyddio’r Gymraeg Yn Dy Fusnes

Bydd y cwrs hwn yn dangos ei fod yn hawdd defnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes. Ewch i'r cwrs: BOSS: About Defnyddio’r Gymraeg yn dy Fusnes (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.