BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau hygyrchedd newydd i weithredwyr morol

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio pecyn cymorth Hawliau Teithwyr ar gyfer gweithredwyr morol.

Mae’r pecyn yn darparu arweiniad lefel uchel i weithredwyr yng Nghymru a Lloegr ar yr hyn y mae’n rhaid iddynt ei wneud i gydymffurfio â rheoliadau hawliau teithwyr, yn ogystal ag argymhellion ar sut y gellir gwneud trafnidiaeth forol yn fwy hygyrch.

Bydd yn berthnasol i wasanaethau megis fferis, ac mae’n gwneud argymhellion ynghylch sut y gellir gwneud teithio ar y môr yn fwy hygyrch er mwyn gwneud siwrneiau’n well i deithwyr a staff anabl.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.