BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau i fusnesau sy'n cynnig gwaith i bobl sy'n dod o'r Wcráin

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau i fusnesau sy'n ystyried cynnig cyflogaeth i bobl sy'n dod i'r DU o'r Wcráin.

Os byddwch yn cynnig cyfleoedd gwaith, bydd angen i chi lenwi’r holiadur gwybodaeth am swyddi gwag ar ôl i chi ddychwelyd yr holiadur at offerwork@homeoffice.gov.uk .Bydd y Tîm Cyflogwyr a Phartneriaeth Cenedlaethol yn cysylltu â'ch sefydliad yn yr Adran Gwaith a Phensiynau o fewn 5 diwrnod gwaith, i drafod y rolau sydd ar gael.

Yna, caiff cyfleoedd am swyddi eu rhannu ar draws rhwydwaith Canolfan Byd Gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau a gyda'r Rhwydwaith Cyflogaeth Ffoaduriaid (REN), sef elusen sy'n gweithio gyda sefydliadau ledled y DU i gynorthwyo ffoaduriaid i gael gwaith.

I gael mwy o wybodaeth ewch i Guidance for businesses offering work to people coming from Ukraine - GOV.UK (www.gov.uk)

Hefyd, mae gan Lywodraeth Cymru wybodaeth a chyngor ar sut y gallwch helpu pobl yr Wcráin. Darganfyddwch fwy ar: Sut y gallwch chi helpu pobl yr Wcráin | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.