
Mae Acas wedi cyhoeddi canllawiau newydd i helpu cyflogwyr i gefnogi menywod sy’n cael anawsterau yn y gwaith oherwydd symptomau’r menopos.
Mae rheoli effaith y menopos yn y gwaith yn bwysig i weithwyr ac i gyflogwyr.
Rhaid i gyflogwr leihau a, lle mae’n bosib, dileu risgiau iechyd a diogelwch yn y gwaith i weithwyr, yn cynnwys:
- sicrhau nad yw symptomau’r menopos yn cael eu gwneud yn waeth gan y gweithle a/neu ei arferion gwaith
- gwneud newidiadau i helpu gweithwyr i reoli eu symptomau wrth wneud eu gwaith.
Mae’r canllawiau’n cynnwys:
- effaith y menopos ar weithiwr
- cefnogi gweithiwr drwy'r menopos
- sut gall y cyflogwr a’r gweithiwr weithio gyda’i gilydd i ganfod atebion
- y menopos a’r gyfraith
- rheoli cydweithwyr gweithiwr sy’n cael ei gefnogi drwy’r menopos
- rhesymau busnes pam y dylai cyflogwr ymdrin â'r menopos yn sensitif
- osgoi hawliad i dribiwnlys cyflogaeth
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan ACAS.