BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau Newydd ar y Cyfnod Pontio

Trafnidiaeth awyr, môr, ffyrdd a rheilffyrdd o fis Ionawr 2021: Canllawiau newydd ar weithio yn yr UE a theithio i’r UE o 1 Ionawr 2021 ar gyfer gweithredwyr trafnidiaeth, gweithwyr, ymwelwyr a theithwyr.

Trwyddedau cludo nwyddau rhyngwladol: Trwyddedau ECMT 2021: Canllawiau newydd yn egluro’r meini prawf ar ddyrannu trwyddedau ECMT a beth sydd angen i gludwyr ei wneud.

Grwpiau allforio o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid i’r UE o 1 Ionawr 2021:

Canllawiau newydd ar gyfer allforwyr a chyflenwyr sy’n allforio cynhyrchion lluosog sy’n dod o anifeiliaid o Brydain (Cymru, Lloegr a’r Alban) i, neu drwy, yr UE. Sut i gofrestru ar gyfer y cynllun hwyluso allforion grŵp, cynhyrchion cymwys a’r gofynion ar gyfer allforwyr a chyflenwyr, gan gynnwys archwiliadau.

Yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar sut bydd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn prosesu amrywiadau i awdurdodiadau marchnata o 1 Ionawr 2021.

Ewch i wefan Porth Pontio UE Busnes Cymru sy'n rhoi cyngor ac arweiniad pwysig i fusnesau sy'n paratoi ar gyfer y trefniadau pontio Ewropeaidd

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.