BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau newydd ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws

Mae canllawiau newydd ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) bellach ar gael.

Gallwch wneud cais am CJRS ar-lein nawr ar gyfer cyfnodau o 1 Tachwedd 2020 a bydd angen i chi gyflwyno unrhyw geisiadau ar gyfer mis Tachwedd erbyn 14 Rhagfyr 2020.

Does dim angen i chi a'ch gweithwyr fod wedi elwa ar y cynllun o'r blaen i wneud cais am gyfnodau o 1 Tachwedd 2020. Bellach, mae terfynau amser misol ar gyfer hawliadau.

Rhaid cyflwyno hawliadau am gyfnodau sy'n dechrau ar/wedi 1 Tachwedd 2020 o fewn 14 diwrnod calendr ar ôl y mis perthnasol, oni bai bod hyn yn disgyn ar benwythnos - os felly y dyddiad cau yw'r diwrnod cau nesaf yn ystod yr wythnos.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn bwriadu cyhoeddi manylion cyflogwyr sy'n defnyddio'r cynllun ar gyfer cyfnodau hawlio o fis Rhagfyr ymlaen, a bydd gweithwyr yn gallu darganfod a yw eu cyflogwr wedi cyflwyno hawliad ar eu cyfer nhw.

Bydd angen i chi gadw unrhyw gofnodion sy'n cefnogi swm y grant CJRS rydych yn ei hawlio, rhag ofn y bydd angen i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi eu gwirio. Gallwch weld, argraffu neu lawrlwytho copïau o'ch hawliadau a gyflwynwyd yn flaenorol drwy fewngofnodi i'ch gwasanaeth CJRS ar GOV.UK.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.