BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau newydd Cyfnod Pontio’r DU: Mewnforio ac Allforio

Dod â nwyddau i Brydain Fawr o du allan i’r DU o 1 Ionawr 2021: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar y lwfansau sy’n golygu y gallwch ddod â swm penodol o nwyddau i Brydain Fawr o du allan i’r DU at eich defnydd eich hun heb orfod talu toll. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Gohirio tollau a chwotâu tariffau o 1 Ionawr 2021: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar ohirio tollau a chwotâu tariffau dros dro ar gyfer mewnforio nwyddau i’r DU wedi’u cyhoeddi. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Cofnodi gwerthu nwyddau o Ogledd Iwerddon i’r UE ar gyfer TAW o 1 Ionawr 2021: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar sut i gofnodi cyflenwadau nwyddau o Ogledd Iwerddon i gwsmeriaid sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW mewn gwlad UE drwy ddefnyddio Rhestr Gwerthu CE. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Gohiriadau neu ostyngiadau rhag Tollau Tramor ar gyfer Tariffau Masnach y DU o 1 Ionawr 2021: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi am ohiriadau Tariffau Masnach y DU neu ostwng y Tollau Tramor o 1 Ionawr 2021. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Cynllun Cymorth Symud: cymorth i symud nwyddau bwyd-amaeth i Ogledd Iwerddon: Mae cymorth newydd ar gael i fasnachwyr a busnesau drwy’r Cynllun Cymorth Symud, er mwyn eu helpu i fodloni gofynion newydd ar gyfer symud anifeiliaid, planhigion a chynhyrchion cysylltiedig o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon ar ôl diwedd y cyfnod pontio. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Nwyddau graddedig Cynllun Dewisiadau Cyffredinol (GSP) y DU: Mae hysbysiad wedi’i gyhoeddi ar nwyddau graddedig o dan Gynllun Dewisiadau Cyffredinol y DU. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Cylchlythyr CThEM ar Gludwyr Cymunedol, Cludo Cymunedol a Thrafnidiaeth Ryngwladol: Mae CThEM wedi cyhoeddi cylchlythyr arall yn eu cyfres. Mae’r rhifyn hwn yn trafod Cyfraddau Cyfnewid yr Ewro. I weld y cylchlythyr, a rhifynnau cynt, ewch i wefan GOV.UK.

Symudiadau a gweithdrefnau tollau parhaus ar ddiwedd y cyfnod pontio: Mae gwybodaeth wedi’i chyhoeddi am beth i’w wneud os ydych chi’n symud nwyddau neu os oes gennych chi nwyddau yn y gweithdrefnau tollau ar ddiwedd y cyfnod pontio. I weld y canllawiau, ewch i GOV.UK

Cludo anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid drwy Brydain fawr: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar y rheolau i’w dilyn os ydych chi’n symud anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid o un drydedd wlad i drydedd wlad arall ac yn teithio drwy Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban), a elwir yn symudiadau ‘pont tir’. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Beth am fynd i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru sy’n darparu cyngor ac arweiniad pwysig ar gyfer busnesau sy’n paratoi ar gyfer y pontio Ewropeaidd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.