
Mae canllawiau newydd wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth y DU i sicrhau y gall y fasnach mewnforio ac allforio anifeiliaid, cynhyrchion anifeiliaid, pysgod, bwyd a bwydydd anifeiliaid barhau os digwydd i’r DU adael yr UE heb gytundeb.
Bydd y canllawiau yn helpu i sicrhau tarfu cyn lleied â phosibl ar ddefnyddwyr ac yn galluogi i nwyddau barhau i symud, gan hefyd gynorthwyo i gynnal bioddiogelwch, diogelwch bwyd a safonau uchel o ran lles anifeiliaid.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.
I helpu eich busnes baratoi ar gyfer Brexit, ewch i Busnes Cymru - Porthol Brexit.