BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cefnogaeth bellach i fusnesau Cymru

Bydd busnesau yng Nghymru sy’n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau’r coronafeirws yn gallu hawlio hyd at £25,000 yn rhagor o gefnogaeth i helpu i dalu costau parhaus.

Bydd y pecyn cymorth diweddaraf hwn yn helpu'r busnesau hynny sy'n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau, i dalu costau parhaus hyd at ddiwedd mis Mehefin wrth iddynt baratoi ar gyfer ailagor ac amodau masnachu mwy arferol.

Mae’r busnesau a all elwa’n cynnwys y canlynol:

  • clybiau nos a lleoliadau adloniant hwyr
  • digwyddiadau a lleoliadau cynadledda nad ydynt wedi'u cynnwys yng Nghronfa Adfer Ddiwylliannol (CRF) Llywodraeth Cymru
  • busnesau lletygarwch a hamdden, gan gynnwys bwytai, tafarndai a chaffis
  • busnesau’r gadwyn gyflenwi, sydd wedi cael eu heffeithio'n sylweddol gan y cyfyngiadau.

Bydd gwiriwr cymhwysedd yn agor ar wefan Busnes Cymru am hanner dydd ar 17 Mai fel bod busnesau’n gallu gweld faint o gymorth maent yn debygol o fod â hawl iddo a sut i wneud cais. Bydd busnesau'n gallu cyflwyno ceisiadau erbyn diwedd y mis a byddant yn derbyn rhwng £2,500 a £25,000 gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau. Caiff y cyllid ei gyfrif yn seiliedig ar faint y busnes a'r math o gyfyngiadau sydd arno.

Mae'r cymorth hwn yn ychwanegol at ryddhad ardrethi annomestig Llywodraeth Cymru o £610m a fydd yn golygu na fydd raid i fwy na 70,000 o fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch dalu unrhyw ardrethi yn 2021-22.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.