
Bydd nifer y bobl yn y DU sydd dros 75 oed yn codi o 1 mewn 12 heddiw i 1 mewn 7 erbyn 2040. Gall traean y plant sy’n cael eu geni heddiw ddisgwyl byw i fod yn 100.
Mae’r cynnydd hwn mewn disgwyliad oes yn her sylweddol i wasanaethau iechyd. Mae hefyd yn gyfle i fusnesau ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd a fydd yn helpu pawb ohonom i fyw bywydau iach ac egnïol wrth fynd yn hŷn.
Mae gan Innovate UK, rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU, hyd at £2 filiwn o’r gronfa i’w fuddsoddi yng ngham 1 y gystadleuaeth Healthy Ageing Trailblazers.
Gallai hyd at £38 miliwn fod ar gael mewn ail gam i helpu i ddatblygu’r syniadau gorau mewn cyfres o brosiectau mawr.
Nod y gystadleuaeth yw sefydlu prosiectau mawr, amlddisgyblaethol, cydweithiol sy’n arddangos modelau busnes a chynnyrch newydd gan weithio ar raddfa fawr i ddarparu gwasanaethau newydd a chynaliadwy i bobl hŷn.
Bydd yn ariannu prosiectau ar draws 7 thema’r Fframwaith Her Heneiddio’n Iach a luniwyd gan y Centre for Ageing Better:
- dal i wneud gweithgarwch corfforol
- cynnal iechyd yn y gwaith
- dylunio cartrefi oed gyfeillgar
- rheoli anhwyldebau cyffredin wrth fynd yn hŷn
- byw’n dda gyda nam gwybyddol
- cynnal cysylltiadau cymdeithasol
- creu lleoedd iach ac egnïol
Y dyddiad olaf ar gyfer gwneud cais yw hanner dydd ar 27 Tachwedd 2019 a gall busnesau a chyrff sector cyhoeddus o unrhyw faint wneud cais.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.