BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cefnogi cyflogaeth a hyfforddiant yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo gefnogi pawb i ddod o hyd i waith, addysg neu hyfforddiant neu i ddechrau eu busnes eu hun wrth iddo lansio cronfa £40 miliwn ar gyfer sgiliau a swyddi.

Bydd y pecyn yn darparu:

  • mwy na £20miliwn i ysgogi cyflogwyr i recriwtio a chadw 5,000 o brentisiaid, cynyddu capasiti rhaglenni hyfforddeiaeth a chefnogi mwy o raddedigion i fanteisio ar brofiad gwaith, sesiynau blasu a lleoliadau gwaith â thâl
  • bron £9miliwn i helpu gweithwyr i ailhyfforddi a dod o hyd i gyflogaeth newydd, gan gynnwys mewn meysydd lle y mae galw am sgiliau, drwy ReACT a Chronfa Ddysgu Undebau Cymru
  • bydd mwy o gyllid ar gael ar gyfer hyfforddeiaethau, Gweithio dros Gymru a Chymunedau am Waith a Mwy i helpu i baru pobl â swyddi a hyrwyddo hunangyflogaeth a ffyrdd newydd o weithio
  • bydd cymorth ar gyfer Cronfa Rhwystrau newydd, a fydd yn cynnig hyd at £2,000 i helpu pobl sydd ddim wedi ystyried hunangyflogaeth o’r blaen, yn enwedig menywod, pobl ifanc, pobl o gymunedau BAME a phobl anabl

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.