BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Chwyldro Cylchol Cymru 2022

Ydych chi'n fusnes yng Nghymru sy'n ceisio defnyddio cynnyrch, gwasanaethau neu weithrediadau cynaliadwy, ond yn methu dod o hyd i'r amser neu'r adnoddau i wireddu hyn?

Bydd cynhadledd y Chwyldro Cylchol yn dod â chwmnïau yng Nghymru ynghyd i geisio gwella eu cylchedd. Dyma ddigwyddiad am ddim sydd ar agor i fusnesau yng Nghymru sydd â diddordeb mewn archwilio egwyddorion economi gylchol yn eu cynnyrch, eu gwasanaethau a'u gweithrediadau.

Bydd y diwrnod yn llawn sgyrsiau, trafodaethau panel, gweithdai a sesiynau rhwydweithio wedi'u hwyluso sydd oll yn canolbwyntio ar ddeall cyfleoedd yr Economi Gylchol i fusnesau yng Nghymru.

Cynhelir y digwyddiad ar 20 Medi 2022 yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe.

Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly cofrestrwch yma am eich cyfle i ddod a bod yn rhan o'r Chwyldro. https://www.eventbrite.com/e/the-circular-revolution-in-wales-2022-chwyldro-cylchol-cymru-2022-tickets-377930559477

Rhaglen arloesi a arweinir gan fusnesau yw'r Chwyldro Cylchol a gyflwynir mewn partneriaeth â Riversimple, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerwysg. Mae'r rhaglen gwerth £2.3m wedi'i hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Am ragor o fanylion, ewch i Cartref - Circular Revolution


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.