BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cod ymarfer drafft ar ddiswyddo ac ailgyflogi

Trwy god ymarfer statudol arfaethedig, mae Llywodraeth y DU yn amddiffyn gweithwyr ac yn cosbi cyflogwyr sy’n defnyddio tactegau diswyddo dadleuol.

Bydd y cod, a fydd yn destun ymgynghoriad yn y lle cyntaf, yn ei gwneud hi’n gwbl glir i gyflogwyr na chânt ddefnyddio bygwth diswyddo i roi pwysau ar weithwyr i dderbyn telerau newydd, ac y dylent gael trafodaethau gonest a meddwl agored gyda’u gweithwyr a’u cynrychiolwyr.

Mae ‘Fire and rehire’ yn cyfeirio at sefyllfa pan fydd cyflogwr yn diswyddo gweithiwr ac yna’n cynnig contract newydd iddo ar delerau newydd, sy’n aml yn llai ffafriol.

Bydd y cod ymarfer statudol newydd hwn yn amlinellu cyfrifoldebau cyflogwyr wrth geisio newid telerau ac amodau cytundebol cyflogaeth, gan gynnwys y rheidrwydd ar fusnesau i ymgynghori â gweithwyr mewn ffordd deg a thryloyw wrth gynnig newidiadau i’w telerau cyflogaeth.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i Llywodraeth yn cosbi arferion ‘diswyddo ac ailgyflogi’ – GOV.UK (www.gov.uk)

Mae Llywodraeth y DU yn ceisio barn am God Ymarfer statudol drafft sy’n amlinellu cyfrifoldebau cyflogwyr wrth geisio newid telerau ac amodau cyflogaeth.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cau am 11:45pm, 18 Ebrill 2023.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Cod Ymarfer Drafft ar ddiswyddo ac ailgyflogi – GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.